RPP04 Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Y Pwyllgor Deisebau | Petitions Committee

Adolygiad o’r Trefniadau ar gyfer Deisebau | Review of Petitions Arrangements

Ymateb gan: Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru | Evidence from: Michelle Morris, The Public Services Ombudsman for Wales

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymateb i ymgynghoriad: Adolygiad o’r Trefniadau ar gyfer Deisebau

Enw Sefydliad: Senedd Cymru: Pwyllgor Deisebau 

Cyflwynwyd: 22 Medi 2025

 

Fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC), mae gennym dri phrif nod.  Rydym yn ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus. 

Rydym yn ystyried cwynion am gynghorwyr sy’n torri’r Cod Ymddygiad.  

Rydym yn ysgogi gwelliant systematig mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru. 

Rydym yn annibynnol, yn ddiduedd, yn deg ac yn agored i bawb sydd ein hangen.  

Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim. 

 

 

ombwdsmon.cymru

 

 

Sylwadau cyffredinol

Diolch i chi am ein gwahodd i ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Credwn yn gryf yng ngwerth y broses ddeisebu o ran cryfhau llais a dylanwad dinasyddion dros bolisi cyhoeddus. 

Yn hanesyddol, byddai'r Pwyllgor yn ein gwahodd o bryd i'w gilydd i gynnig barn ar ddeiseb a dderbyniwyd. Fodd bynnag, ni dderbyniwn geisiadau o'r fath yn rheolaidd. Byddem bob amser yn croesawu cyfleoedd i gefnogi'r Pwyllgor, trwy roi barn yn seiliedig ar dueddiadau ein gwaith achos neu dystiolaeth a gasglwyd trwy ein gwaith gwella rhagweithiol.

Byddem hefyd yn awgrymu bod y Pwyllgor yn ystyried mabwysiadu ychydig o newidiadau i helpu i wella hygyrchedd y broses a rheoli disgwyliadau. Gallai'r rhain gynnwys:

cynnwys gwybodaeth gliriach am yr amserlenni. Ar hyn o bryd, nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn rhwydd ar wefan y Pwyllgor.

cyhoeddi gwybodaeth am ba gyfran o'r deisebau a dderbynnir sy'n cael eu trafod â Llywodraeth Cymru / eu derbyn i'w trafod yn y Senedd.

cyhoeddi gwybodaeth am ba gyfran o ddeisebau a dderbynnir sy'n arwain at newid polisi.

Yn olaf, i osgoi amheuaeth, hoffwn danlinellu ein bod yn croesawu'r rheolau llawn sy'n llywodraethu'r broses ddeisebu gan ddatgan: 

“Nid yw deisebau sy’n honni achosion penodol o gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan gyrff cyhoeddus yn dderbyniadwy. Yn yr achosion hyn, cynghorir deisebwyr i gysylltu â’r Ombwdsmon i fwrw ymlaen â’u pryderon.”

Credwn fod y cymal hwn yn gweithio'n dda a dylid ei gadw heb ei ddiwygio.

   

Sylwadau cloi

Diolch am y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. 

 

Michelle Morris

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Medi 2025